William Langland | |
---|---|
Ganwyd | c. 1332, 1332 Gorllewin Canolbarth Lloegr |
Bu farw | c. 1386, 1400 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd |
Bardd o Loegr oedd William Langland (c. 1330 – c. 1400) a briodolir y gerdd Saesneg Canol Piers Plowman (tua 1362) iddo. Traethiad alegorïaidd o hanes Cristnogaeth yw Piers Plowman, gwaith a gafodd gryn ddylanwad ar lenyddiaeth Saesneg Canol a llên Lloegr hyd at gyfnod y Stiwartiaid, yr hyn a elwir traddodiad Piers Plowman.
Egyr Piers Plowman gyda'r bardd yn crwydro Bryniau Malvern, ac oherwydd hynny credir iddo hanu o'r ardal ger y Mers, o bosib Ledbury neu Colwall yn Swydd Henffordd, Cleobury Mortimer yn Swydd Amwythig, neu Malvern yn Swydd Gaerwrangon. Mae ambell ysgolhaig wedi sylwi ar debygrwydd rhwng cerfiadau ar seddau côr ym Mhriordy Sant Giles, Little Malvern, a delweddaeth y gerdd.
Dengys y gerdd wybodaeth sylweddol o hanes y ffydd Gristnogol, y ffurfwasanaeth, yr Ysgrythur Lân, ac esboniadaeth Feiblaidd draddodiadol, yn ogystal â chrap ar egwyddorion diwinyddol sylfaenol yr Eglwys. Am hynny, awgrymir iddo weithio mewn swydd eglwysig, ac o bosib wedi derbyn ei addysg yn ysgol y Benedictiaid yn Great Malvern.[1] Ceir cyfeiriadau at nifer o leoedd yn Llundain hefyd – gan gynnwys Cornhill, Cock Lane, Cheap, a Court of the Arches – sy'n awgrymu iddo dreulio digon o'i oes yn y ddinas honno.